Diarhebion 16 BCN

1 Pobl biau trefnu eu meddyliau,ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod.

2 Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.

3 Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD,a chyflawnir dy gynlluniau.

4 Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas,hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.

5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch;y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.

6 Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd,a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.

7 Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.

8 Gwell ychydig gyda chyfiawndernag enillion mawr heb farn.

9 Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.

10 Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.

11 Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.

12 Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.

13 Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.

14 Y mae llid brenin yn gennad angau,ond fe'i dofir gan yr un doeth.

15 Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16 Gwell nag aur yw ennill doethineb,a gwell dewis deall nag arian.

17 Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni,a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.

18 Daw balchder o flaen dinistr,ac ymffrost o flaen cwymp.

19 Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20 Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.

21 Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus,a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.

22 Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog,ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.

23 Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.

24 Y mae geiriau teg fel diliau mêl,yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.

25 Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth.

26 Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,a'i enau sy'n ei annog ymlaen.

27 Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;y mae fel tân poeth ar ei wefusau.

28 Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.

29 Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,ac yn ei arwain ar ffordd wael.

30 Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.

31 Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.

32 Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,a rheoli tymer na chipio dinas.

33 Er bwrw'r coelbren i'r arffed,oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31