1 Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ,ac yn naddu ei saith golofn;
2 y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwina hulio ei bwrdd.
3 Anfonodd allan ei llancesau,ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4 “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5 “Dewch, bwytewch gyda mi,ac yfwch y gwin a gymysgais.
6 Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;rhodiwch yn ffordd deall.”
7 Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr,a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8 Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu;cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di.
9 Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach;dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb,ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11 Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau,ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12 Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw;ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13 Y mae gwraig ffôl yn benchwiban,yn ddiddeall, heb wybod dim.
14 Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15 yn galw ar y rhai sy'n mynd heibioac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16 “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17 “Y mae dŵr lladrad yn felys,a bara wedi ei ddwyn yn flasus.”
18 Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno,ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.