1 Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg,na dymuno bod yn eu cwmni;
2 oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais,a'u genau'n sôn am drybini.
3 Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb,a'i sicrhau trwy wybodaeth.
4 Trwy ddeall y llenwir ystafelloeddâ phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
5 Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf,a'r un deallus na'r un nerthol;
6 oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd,a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.
7 Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;nid yw'n agor ei geg yn y porth.
8 Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwgyn cael ei alw yn ddichellgar.
9 Y mae dichell y ffŵl yn bechod,ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.
10 Os torri dy galon yn nydd cyfyngder,yna y mae dy nerth yn wan.
11 Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
12 Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.
13 Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda,ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau.
14 Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd;os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol,ac ni thorrir ymaith dy obaith.
15 Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn,a phaid ag ymosod ar ei gartref.
16 Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd;ond fe feglir y drygionus gan adfyd.
17 Paid â llawenhau pan syrth dy elyn,nac ymfalchïo pan feglir ef,
18 rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon,a throi ei ddig oddi wrtho.
19 Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
20 Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,a diffoddir goleuni'r drygionus.
21 Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;paid â bod yn anufudd iddynt,
22 oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?
23 Dyma hefyd eiriau'r doethion:Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.
24 Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”,fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.
25 Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad,a daw gwir fendith arnynt.
26 Y mae rhoi ateb gonestfel rhoi cusan ar wefusau.
27 Rho drefn ar dy waith y tu allan,a threfna'r hyn sydd yn dy gae,ac yna adeilada dy dŷ.
28 Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos,na thwyllo â'th eiriau.
29 Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi;talaf iddo yn ôl ei weithred.”
30 Euthum heibio i faes un diog,ac i winllan un disynnwyr,
31 a sylwais eu bod yn llawn drain,a danadl drostynt i gyd,a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.
32 Edrychais arnynt ac ystyried;sylwais a dysgu gwers:
33 ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,
34 a daw tlodi atat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.