1 Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onestna'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.
2 Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall;y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3 Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4 Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6 Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.