10 Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,na rheoli tywysogion i gaethwas.
11 Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12 Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13 Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,a checru gwraig fel diferion parhaus.
14 Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
15 Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg,ac i'r diogyn daw newyn.
16 Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun,ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.