17 Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD,ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
18 Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo,ond gofala beidio â'i ladd.
19 Daw cosb ar y gwyllt ei dymer;er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.
20 Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.
21 Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22 Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.