21 Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22 Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
24 Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl,eto nid yw'n ei chodi at ei enau.
25 Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers;os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.
26 Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei famyn fab gwaradwyddus ac amharchus.
27 Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd,byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.