6 Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7 Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.
8 Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10 Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,na rheoli tywysogion i gaethwas.
11 Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12 Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.