8 Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10 Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,na rheoli tywysogion i gaethwas.
11 Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12 Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13 Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,a checru gwraig fel diferion parhaus.
14 Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.