1 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,a gwell yw parch nag arian ac aur.
2 Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
3 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5 Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.
6 Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
7 Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.