11 oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.
12 Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.
13 Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.
14 Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15 Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,bydd fy nghalon innau yn llawen.
16 Byddaf yn llawenhau drwof i gydpan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17 Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;