13 Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.
14 Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15 Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,bydd fy nghalon innau yn llawen.
16 Byddaf yn llawenhau drwof i gydpan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17 Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;
18 os felly, bydd dyfodol iti,ac ni thorrir ymaith dy obaith.
19 Fy mab, gwrando a bydd ddoeth,a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.