2 a gosod gyllell at dy wddfos wyt yn un blysig.
3 Paid â chwennych ei ddanteithion,oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw.
4 Paid â'th flino dy hun i ennill cyfoeth;bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal.
5 Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu,oherwydd y mae'n magu adenydd,fel eryr yn hedfan i'r awyr.
6 Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,na chwennych ei ddanteithion,
7 oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,ond ni fydd yn meddwl hynny.
8 Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.