22 Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd,a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen.
23 Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.
24 Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.
25 Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
26 Fy mab, dal sylw arnaf,a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.
27 Y mae'r butain fel pwll dwfn,a'r ddynes estron fel pydew cul;
28 y mae'n llercian fel lleidr,ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.