6 Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,na chwennych ei ddanteithion,
7 oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,ond ni fydd yn meddwl hynny.
8 Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.
9 Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.
10 Paid â symud yr hen derfynau,na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;
11 oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.
12 Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.