12 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
13 Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
14 Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,ac yn codi'n fore i wneud hynny,yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.
15 Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;
16 y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.
17 Y mae haearn yn hogi haearn,ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.
18 Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.