21 Y mae tawddlestr i'r arian, a ffwrnais i'r aur,felly y profir cymeriad gan ganmoliaeth.
22 Er iti bwyo'r ffôl â phestl mewn morteryn gymysg â'r grawn mân,eto ni elli yrru ei ffolineb allan ohono.
23 Gofala'n gyson am dy braidd,a rho sylw manwl i'r ddiadell;
24 oherwydd nid yw cyfoeth yn para am byth,na choron o genhedlaeth i genhedlaeth.
25 Ar ôl cario'r gwair, ac i'r adladd ymddangos,a chasglu gwair y mynydd,
26 yna cei ddillad o'r ŵyn,a phris y tir o'r bychod geifr,
27 a bydd digon o laeth geifr yn ymborth i ti a'th deulu,ac yn gynhaliaeth i'th forynion.