3 Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.
4 Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?
5 Y mae cerydd agoredyn well na chariad a guddir.
6 Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.
7 Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl,ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw.
8 Fel aderyn yn crwydro o'i nyth,felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.
9 Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon,a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid.