13 Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14 Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15 Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16 Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17 Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18 Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19 Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.