19 Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20 Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad;y mae mwy o obaith i'r ffŵl nag iddo ef.
21 Wrth faldodi gwas o'i lencyndod,bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22 Codi cynnen y mae rhywun cas,ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23 Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24 Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25 Magl yw ofni pobl,ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.