23 Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24 Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25 Magl yw ofni pobl,ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.
26 Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr,ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
27 Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn,a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.