6 Rhwydir y drygionus gan gamwedd,ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7 Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8 Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9 Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,ac ni cheir llonyddwch.
10 Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11 Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12 Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.