1 Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
2 Yr wyf yn fwy anwar na neb;nid oes deall dynol gennyf.
3 Ni ddysgais ddoethineb,ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4 Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5 Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6 Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.