20 Dyma ymddygiad y wraig odinebus:y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”
21 Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,pedwar na all hi eu dioddef:
22 gwas pan ddaw'n frenin,ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,
23 dynes atgas yn cael gŵr,a morwyn yn disodli ei meistres.
24 Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond yn eithriadol ddoeth:
25 y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26 y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;