23 dynes atgas yn cael gŵr,a morwyn yn disodli ei meistres.
24 Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond yn eithriadol ddoeth:
25 y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26 y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27 y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28 a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29 Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,pedwar sy'n rhodio'n urddasol: