26 y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27 y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28 a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29 Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30 llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31 ceiliog yn torsythu; bwch gafr;a brenin yn arwain ei bobl.
32 Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.