3 Ni ddysgais ddoethineb,ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4 Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5 Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6 Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7 Gofynnaf am ddau beth gennyt;paid â'u gwrthod cyn imi farw:
8 symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;portha fi â'm dogn o fwyd,
9 rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.