6 Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7 Gofynnaf am ddau beth gennyt;paid â'u gwrthod cyn imi farw:
8 symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;portha fi â'm dogn o fwyd,
9 rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10 Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11 Y mae rhai yn melltithio'u tad,ac yn amharchu eu mam.
12 Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,ond heb eu glanhau o'u haflendid.