9 rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10 Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11 Y mae rhai yn melltithio'u tad,ac yn amharchu eu mam.
12 Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13 Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,a'u golygon yn uchel.
14 Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,a'u genau fel cyllyll,yn difa'r tlawd o'r tir,a'r anghenus o blith pobl.
15 Y mae gan y gele ddwy ferchsy'n dweud, “Dyro, dyro.”Y mae tri pheth na ellir eu digoni,ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”: