12 weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,yn llercian ym mhob cornel—
13 y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu,ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,
14 “Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau,ac rwyf newydd gyflawni f'addewid;
15 am hynny y deuthum allan i'th gyfarfodac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael.
16 Taenais ar fy ngwely gwrlido frethyn lliwgar yr Aifft;
17 ac rwyf wedi persawru fy ngwelyâ myrr, aloes a sinamon.
18 Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore,a chael mwynhad wrth garu.