19 Oherwydd nid yw'r gŵr gartref;fe aeth ar daith bell.
20 Cymerodd god o arian gydag ef,ac ni fydd yn ôl nes y bydd y lleuad yn llawn.”
21 Y mae'n ei ddenu â'i pherswâd,ac yn ei hudo â'i geiriau gwenieithus.
22 Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,fel carw yn neidio i'r rhwyd
23 cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw,fel aderyn yn hedeg yn syth i'r faglheb wybod fod ei einioes mewn perygl.
24 Yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a rhowch sylw i'm geiriau.
25 Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd,a phaid â chrwydro i'w llwybrau;