2 Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw,a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad.
3 Rhwym hwy am dy fysedd,ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4 Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”,a chyfarch ddeall fel câr,
5 i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.
6 Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,yn edrych allan trwy'r dellt
7 ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;a gwelais yn eu plith un disynnwyr
8 yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ