5 i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.
6 Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,yn edrych allan trwy'r dellt
7 ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;a gwelais yn eu plith un disynnwyr
8 yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ
9 yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.
10 Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—
11 un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,