8 yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ
9 yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.
10 Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—
11 un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,
12 weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,yn llercian ym mhob cornel—
13 y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu,ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,
14 “Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau,ac rwyf newydd gyflawni f'addewid;