12 Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
13 Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,ffordd drygioni a geiriau traws.
14 Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.
15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
16 Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
17 Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
18 Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.