18 Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.
19 Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.
20 Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,
21 a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.
22 “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23 Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.
24 Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.