22 “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23 Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.
24 Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.
25 Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
26 cyn iddo greu tir a meysydd,ac o flaen pridd y ddaear.
27 Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lleac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
28 pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchbenac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,