27 Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lleac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
28 pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchbenac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,
29 pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
30 Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,yn hyfrydwch iddo beunydd,yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
31 yn ymddifyrru yn y byd a greodd,ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
32 “Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
33 Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;peidiwch â'i anwybyddu.