3 Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref,wrth y fynedfa at y pyrth:
4 “Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw,ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
5 Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
6 Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,a daw geiriau gonest o'm genau.
7 Traetha fy nhafod y gwir,ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8 Y mae fy holl eiriau yn gywir;nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
9 Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.