6 Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,a daw geiriau gonest o'm genau.
7 Traetha fy nhafod y gwir,ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8 Y mae fy holl eiriau yn gywir;nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
9 Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
10 Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,oherwydd gwell yw nag aur.
11 Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
12 Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.