1 Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ,ac yn naddu ei saith golofn;
2 y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwina hulio ei bwrdd.
3 Anfonodd allan ei llancesau,ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4 “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5 “Dewch, bwytewch gyda mi,ac yfwch y gwin a gymysgais.
6 Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;rhodiwch yn ffordd deall.”