4 “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5 “Dewch, bwytewch gyda mi,ac yfwch y gwin a gymysgais.
6 Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;rhodiwch yn ffordd deall.”
7 Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr,a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8 Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu;cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di.
9 Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach;dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb,ac adnabod y Sanctaidd yw deall.