9 Yna Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw?
10 Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.
11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sydd ganddo, ac efe a'th felltithia o flaen dy wyneb.
12 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd.
13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a'i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.
14 A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a'r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;
15 A'r Sabeaid a ruthrasant, ac a'u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.