Job 10 BWM

1 Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2 Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

3 Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4 Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

7 Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.

8 Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

9 Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?

10 Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

11 Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.

12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a'th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

13 A'r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

14 Os pechaf, ti a'm gwyli, ac ni'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16 Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i'm herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn.

18 Paham gan hynny y dygaist fi allan o'r groth? O na buaswn farw, ac na'm gwelsai llygad!

19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o'r bru i'r bedd.

20 Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

21 Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

22 Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42