Job 18 BWM

1 A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

2 Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.

3 Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?

4 O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o'i lle?

5 Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.

6 Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a'i lusern a ddiffydd gydag ef.

7 Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a'i gyngor ei hun a'i bwrw ef i lawr.

8 Canys efe a deflir i'r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.

9 Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a'r gwylliad fydd drech nag ef.

10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.

11 Braw a'i brawycha ef o amgylch, ac a'i gyr i gymryd ei draed.

12 Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

13 Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

14 Ei hyder ef a dynnir allan o'i luesty: a hynny a'i harwain ef at frenin dychryniadau.

15 Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.

16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a'i frig a dorrir oddi arnodd.

17 Ei goffadwriaeth a gollir o'r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

18 Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o'r byd.

19 Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.

20 Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a'r rhai o'r blaen a gawsant fraw.

21 Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42