Job 3 BWM

1 Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.

2 A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,

3 Darfydded am y dydd y'm ganwyd ynddo, a'r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.

4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.

5 Tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a'i dychryno.

6 Y nos honno, tywyllwch a'i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.

7 Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.

8 A'r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a'i melltithio hi.

9 A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:

10 Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

11 Paham na bûm farw o'r bru? na threngais pan ddeuthum allan o'r groth?

12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?

13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.

14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;

15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;

16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.

17 Yno yr annuwiolion a beidiant â'u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.

18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd.

19 Bychan a mawr sydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.

20 Paham y rhoddir goleuni i'r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i'r gofidus ei enaid?

21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?

22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?

23 Paham y rhoddir goleuni i'r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?

24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a'm rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42