Job 31 BWM

1 Myfi a wneuthum amod â'm llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?

2 Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o'r uchelder?

3 Onid oes dinistr i'r anwir? a dialedd dieithr i'r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd?

4 Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?

5 Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo;

6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd.

7 Os gwyrodd fy ngherddediad allan o'r ffordd; a myned o'm calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:

8 Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.

9 Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;

10 Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.

11 Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i'w gosbi gan farnwyr.

12 Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.

13 Os diystyrais achos fy ngwas a'm gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;

14 Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo?

15 Onid yr hwn a'm gwnaeth i yn y groth, a'i gwnaeth yntau? ac onid yr un a'n lluniodd yn y bru?

16 Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio;

17 Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono;

18 (Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o'm hieuenctid; ac o groth fy mam mi a'i tywysais hi;)

19 Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a'r anghenog heb wisg:

20 Os ei lwynau ef ni'm bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i;

21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth:

22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.

23 Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.

24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;

25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i'm llaw gael llawer;

26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a'r lleuad yn cerdded yn ddisglair;

27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:

28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i'w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod.

29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a'm casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:

30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)

31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o'i gnawd ef! ni ddigonir ni.

32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i'r fforddolion.

33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;

34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a'm dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o'm drws?

35 O am un a'm gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o'm gwrthwynebwr lyfr.

36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.

37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.

38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo;

39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:

40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42