Job 9 BWM

1 Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,

2 Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw?

3 Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.

4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?

5 Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.

6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o'i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.

7 Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.

8 Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.

9 Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.

10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.

11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.

12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?

13 Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.

14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?

15 I'r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â'm barnwr.

16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.

17 Canys efe a'm dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.

18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a'm lleinw â chwerwder.

19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?

20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a'm barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a'm barn yn gildyn.

21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.

22 Dyma un peth, am hynny mi a'i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a'r annuwiol.

23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.

24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?

25 A'm dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.

26 Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth.

27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:

28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na'm berni yn wirion.

29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?

30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;

31 Eto ti a'm trochi yn y pwll; a'm dillad a'm ffieiddiant.

32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.

33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.

34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:

35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42