Job 5 BWM

1 Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o'r saint y troi di?

2 Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.

3 Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.

4 Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5 Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a'r sychedig a lwnc eu cyfoeth.

6 Er na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagura gofid allan o'r ddaear:

7 Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

8 Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos:

9 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.

12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16 Felly y mae gobaith i'r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.

18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a'i ddwylo ef a iachânt.

19 Mewn chwech o gyfyngderau efe 'th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.

20 Mewn newyn efe a'th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.

21 Rhag ffrewyll tafod y'th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.

22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.

23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â'th drigfa, ac ni phechi.

25 A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a'th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.

26 Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

27 Wele hyn, ni a'i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42