Job 6 BWM

1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2 O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!

3 Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.

4 Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i'm herbyn.

5 A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?

6 A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?

7 Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.

8 O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!

9 Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a'm torri ymaith.

10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.

11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?

12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?

13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?

14 I'r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.

15 Fy mrodyr a'm twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;

16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:

17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o'u lle.

18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.

19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.

20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.

21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.

22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O'ch golud rhoddwch roddion drosof fi?

23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?

24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.

25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?

26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?

27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i'ch cyfaill.

28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.

29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.

30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42